Castell Powis: Archwilio Mythau o'r 18fed Ganrif
Nos Iau, 19 Chwefror 2026, bydd Dr Melvin Humphreys yn traddodi darlith o'r enw 'Castell Powis: Archwilio Mythau o'r 18fed Ganrif' ar gyfer Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, mewn cydweithrediad 芒 Chymdeithas Maldwyn.
Cynhelir y ddarlith am 6.30y.p. yn The Medical Society of London, 11 Chandos Street, Llundain, W1G 9EB. Os ydych chi'n bwriadu mynychu yn Llundain, yna nid oes angen tocyn arnoch chi. Os hoffech ymuno ar-lein, yna . Noder y bydd y ddarlith hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Mae Dr Melvin Humphreys yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae wedi datblygu portffolio ymchwil a chyhoeddiadau pwysig sy'n canolbwyntio ar hanesion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ei sir enedigol, Sir Drefaldwyn, ac yn benodol y dylanwad a gafwyd gan deuluoedd bonedd ac ystadau'r sir. Gan weithio gyda Murray Ll. Chapman, mae Melvin wrthi'n llunio hanes ystadau Powis, a fydd yn sail i'w ddarlith.