Mae ap ARFer wedi鈥檌 seilio ar wyddor a thystiolaeth newid ymddygiad ac yn ffrwyth prosiect sydd wedi ei gynnal dros gyfnod o chwe blynedd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg y Brifysgol. Ei brif bwrpas yw darparu fframwaith hawdd a hwyliog i grwpiau o staff ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Mae鈥檙 ap yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel ieithyddol 鈥 o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl. Mae wedi bod yn boblogaidd gyda staff gweithleoedd sydd wedi鈥檌 fabwysiadu'n gynnar, gyda 79% o鈥檙 gweithwyr sydd wedi defnyddio鈥檙 ap yn nodi ei fod wedi cael effaith sylweddol ar eu defnydd o鈥檙 Gymraeg yn eu gweithleoedd.
Yn eu plith, Mari Gwenllian Roberts, sy鈥檔 defnyddio鈥檙 Gymraeg yn rheolaidd yn ei swydd ac a nododd fod yr ap wedi rhoi rhagor o gyfleoedd iddi hi a鈥檌 chydweithwyr ddefnyddio鈥檙 Gymraeg:
鈥楳ae 鈥檔a rai aelodau o鈥檙 t卯m doeddwn i erioed wedi siarad Cymraeg efo nhw cyn defnyddio ARFer. Erbyn hyn, rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau Cymraeg a hynny鈥檔 sicr o ganlyniad i鈥檙 elfennau newid ymddygiad y mae鈥檙 ap wedi eu cyflwyno i ni鈥.
Mae Marcel Clusa Ferrand, sy鈥檔 wreiddiol o Gatalwnia, hefyd wedi gweld budd yr ap yn cael ei ddefnyddio yn ei weithle:
鈥楧w i wedi dysgu Cymraeg ac mae鈥檙 ap wedi bod yn help i ddefnyddio Cymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd nag oeddwn i鈥檔 ei wneud cynt. Mae鈥檔 sicr wedi helpu gyda fy hyder i ddefnyddio Cymraeg鈥.
Mae rhaglen ARFer yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a derbyniwyd cyllid drwy gronfa ARFOR i ddatblygu鈥檙 ap.