Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Nghymdeithas y Gyfraith yn Llundain ar ddydd Mercher 3 Rhagfyr, 2025.
Mae鈥檙 gwobrau blynyddol yn dathlu鈥檙 gweithgareddau cyfreithiol pro bono gorau a wneir gan sefydliadau ac unigolion a鈥檙 effaith gadarnhaol y maent wedi鈥檌 chael ar y rhai a gafodd gymorth. Yn arwain y noson oedd golygydd cyfryngau The Sunday Times, Rosamund Urwin, a dathlodd hi lwyddiant gwaith cyfreithwyr pro bono a LawWorks.
Mae鈥檙 clinig yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd, gan gynnig profiad cyfreithiol ymarferol i fyfyrwyr dan oruchwyliaeth staff cymwysedig. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymrwymiad y Clinig i fynediad at gyfiawnder a'i effaith gynyddol yn nhirlun cyfreithiol Cymru.
Mae鈥檙 wobr hon yn benllanw ar flwyddyn lwyddiannus i Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor gan iddynt ennill gwobr Pro Bono yng Ngwobrau News Legal Wales 2025 ym mis Mehefin. Roedd y wobr yn cydnabod y gwaith gwerthfawr a ddarperir gan glinig sy'n rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i'r rhai mewn angen.
Dywedodd Tracey Horton, Cyfarwyddwr Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol, 鈥淩ydym wrth ein bodd i ennill y wobr yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig. Mae cael ein cydnabod ar 么l cyfnod mor fyr yn anrhydedd go iawn. Roeddem yn hynod o brysur y llynedd fel y gwelir o鈥檔 hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
"Mae鈥檙 Clinig yr un mor boblogaidd eleni ac rydym yn gweithio ar 么l-gofnodi tair wythnos ar gyfer apwyntiadau. Mae poblogrwydd y Clinig yn dystiolaeth o鈥檙 angen mawr am fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gobeithio mynd o nerth i nerth鈥.