Mae haf 2026 wedi dod ag un o dymhorau tanau gwyllt mwyaf difrifol y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'i ddwys谩u gan wres eithafol ac amodau eithriadol o sych. Cofnodwyd mwy na 500 o danau ledled y wlad ym mis Gorffennaf yn unig, gan effeithio ar dir amaethyddol a gweundiroedd, rhostiroedd, a glaswelltiroedd ucheldir, tirweddau sy'n storio carbon, yn rheoleiddio d诺r, yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynnal rhai o fioamrywiaeth fwyaf gwerthfawr y Deyrnas Unedig.
Er bod y difrod gweladwy a achosir gan danau gwyllt yn glir, mae'r effeithiau ar iechyd y pridd yn llawer anoddach i'w gweld. Mae'r project yn cael ei arwain gan yr Athro Davey Jones o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, sy鈥檔 gweithio 芒'i gydweithwyr yr Athro Dave Chadwick, yr Athro Robert Griffiths, Dr Emily Cooledge a Dr Karina Marsden.
鈥淵n aml, gelwir pridd yn ecosystem anghofiedig y Deyrnas Unedig, ond mae'n gwneud llawer iawn o waith i ni o dan ein traed, gan gloi carbon i ffwrdd, hidlo ein d诺r yfed a chefnogi'r planhigion a'r anifeiliaid y mae ein tirweddau'n dibynnu arnynt,鈥 meddai鈥檙 Athro Jones. 鈥淵n syth ar 么l t芒n, gall y pridd ddweud llawer wrthym am ba mor ddrwg y mae wedi鈥檌 effeithio. Ond gall rhai o'r signalau hynny newid yn gyflym yn dilyn glaw, erydiad ac adferiad llystyfiant. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni鈥檔 gallu mynd i鈥檙 maes yn gyflym yn dilyn tanau gwyllt.鈥
Mae t卯m Bangor yn defnyddio dull plotiau p芒r, gan gymharu tir wedi'i losgi'n uniongyrchol 芒 thir cyfagos heb ei losgi. Mae hyn yn darparu cymhariaeth naturiol sy'n caniat谩u i ymchwilwyr nodi newidiadau a achosir gan d芒n wrth ystyried gwahaniaethau rhwng safleoedd. Mae lleoliadau'n cael eu nodi ledled y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio data lloeren NASA, gan ganiat谩u i'r t卯m ddewis safleoedd addas yn gyflym yn dilyn tanau newydd.
Bydd ymchwilwyr yn mesur newidiadau mewn carbon a maetholion pridd, gweithgaredd a swyddogaeth microbaidd, i ba raddau y mae鈥檔 gwrthyrru d诺r a risg erydiad, ochr yn ochr ag effeithiau ar fioamrywiaeth planhigion. Drwy samplu ar draws gwahanol ecosystemau, bydd y t卯m hefyd yn ymchwilio i weld a yw rhai cynefinoedd yn fwy agored i danau gwyllt nag eraill.
Mae arsylwadau maes cychwynnol o safleoedd ym Mwlch Sychnant ger Conwy a'r Rhinogydd ger Harlech yng Ngogledd Cymru yn dangos graddfa bosibl yr effeithiau. Mae'r safleoedd yn cynnwys rhostir ucheldirol o fewn tirweddau gwarchodedig iawn sydd wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ym Mwlch Sychnant, mae amcangyfrifon maes rhagarweiniol yn awgrymu bod y t芒n wedi defnyddio 12鈥17 tunnell o garbon yr hectar o lystyfiant, gan losgi'n ddwfn i'r haen gwasarn arwynebol. Gwelodd ymchwilwyr hefyd golledion sylweddol o ddeunydd organig yn y pridd, gan dynnu sylw at y cronfeydd mawr o garbon a gedwir yn y tirweddau ucheldirol hyn.
鈥淢ae'r arsylwadau cychwynnol hyn yn rhoi cipolwg i ni ar yr hyn sydd wedi'i golli, ond dim ond rhan o'r stori yw mesur y niwed uniongyrchol," meddai鈥檙 Athro Chadwick. 鈥淢ae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd nesaf, pa mor gyflym y mae'r priddoedd a'r cynefinoedd hyn yn adfer, a yw rhai ecosystemau'n fwy gwydn nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad."
Mae'r t卯m yn bwriadu dychwelyd i safleoedd astudio 6, 12 a 24 mis ar 么l y tanau, gan ganiat谩u i ymchwilwyr olrhain newidiadau yn iechyd y pridd, bioamrywiaeth a swyddogaeth ecosystemau dros amser.
鈥淣id yw t芒n gwyllt yn effeithio ar bob tirwedd yn yr un ffordd,鈥 meddai Dr Emily Cooledge. 鈥淒rwy astudio gwahanol ecosystemau a dychwelyd i'r un safleoedd dros amser, gallwn ddechrau deall pa briddoedd a chynefinoedd sydd fwyaf agored i niwed, pa rai sy'n gallu adfer yn naturiol, a ble y gallai fod angen ymyrraeth i gefnogi'r adferiad hwnnw. Bydd y dystiolaeth honno'n hollbwysig wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol lle gallai achosion o danau gwyllt eithafol ddod yn fwyfwy cyffredin."
Mae'r project yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid ymateb i danau gwyllt gan gynnwys DEFRA, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, Scottish Forestry a Gwasanaethau T芒n ac Achub, sy'n helpu i nodi safleoedd t芒n addas wrth iddynt ddigwydd.
Bydd canfyddiadau鈥檙 ymchwil yn helpu rheolwyr tir, gwasanaethau t芒n a llunwyr polisi i ddeall canlyniadau uniongyrchol tanau gwyllt a sut mae tirweddau sydd wedi鈥檜 niweidio yn adfer. Gallai'r canlyniadau helpu i lywio mesurau i amddiffyn cyflenwadau d诺r yfed, lleihau risgiau llifogydd ac erydiad, a diogelu cynefinoedd agored i niwed wrth i'r risg o danau gwyllt gynyddu ledled y Deyrnas Unedig.
鈥淒rwy ddychwelyd i'r safleoedd hyn dros y ddwy flynedd nesaf, a chymharu adferiad ar draws gwahanol ecosystemau, gallwn ddeall pam mae rhai priddoedd a chynefinoedd yn adfer yn gyflymach nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad. Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu'r sylfaen dystiolaeth hon nawr, mewn ffordd gydlynol, fel ein bod wedi ein paratoi'n well ar gyfer hafau'r dyfodol,鈥 meddai鈥檙 Athro Griffiths.
Mae'r t卯m ymchwil yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd tanau gwyllt addas gan dirfeddianwyr a rheolwyr tir. E-bostiwch d.jones@bangor.ac.uk neu e.cooledge@bangor.ac.uk os oes gennych ddiddordeb.