Ysgol Fusnes yn sicrhau Bwrsari gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau bwrsari gan Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW). Dyfarnwyd y fwrsari i Heather Bunce Harrington, myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid, yn dilyn mentrau allgymorth ac ymgysylltu parhaus yr ysgol.
Bydd y fwrsari yn darparu cymorth ariannol yn ystod gradd Heather ac yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr Ysgol i ehangu cyfranogiad a chreu cyfleoedd effeithiol i alluogi myfyrwyr i lwyddo.
Bydd bwrsari Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) yn darparu cymorth ariannol a phroffesiynol i helpu'r myfyriwr i ymgysylltu'n llawn 芒'i astudiaethau yn Ysgol Fusnes Albert Guaby, gan leihau'r pwysau ariannol a'i alluogi i ganolbwyntio ar lwyddiant academaidd a datblygiad gyrfa. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer mentora a chyswllt 芒'r diwydiant, gan gefnogi dilyniant tuag at yrfa broffesiynol mewn cyfrifeg.
Dywedodd Yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth yr Ysgol:
鈥淩ydym yn ddiolchgar i鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr am ddarparu鈥檙 bwrsari hwn. Mae'n gydnabyddiaeth o gryfder ein perthynas hirdymor gyda鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr a'n hymrwymiad cyffredin i gefnogi llwyddiant myfyrwyr.鈥
Rhannodd Heather Bunce Harrington, a dderbyniodd y bwrsari, effaith y wobr: 鈥淢ae derbyn y bwrsari hwn yn golygu llawer i mi. Mae'n lleddfu pryderon ariannol yn ystod fy ngradd ac yn caniat谩u i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a'm cymell ymhellach i ddilyn gyrfa mewn cyfrifeg. Rwy'n ddiolchgar iawn i Ysgol Albert Gubay a鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr am y cyfle hwn ac am gredu yn fy mhotensial i lwyddo.鈥
Dywedodd Riaz Anwar, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg a Chyfarwyddwr Allgymorth ac Ymgysylltu: 鈥淩ydym ni wrth ein bodd yn cydweithio a鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr i greu cyfleoedd ystyrlon sy鈥檔 cefnogi uchelgeisiau a gyrfaoedd ein myfyrwyr yn y dyfodol. Mae'r bwrsari hwn yn enghraifft gref o sut y gall gwaith allgymorth penodol gael effaith wirioneddol a pharhaol.鈥
Nid yn unig y mae'r bwrsari yn darparu cefnogaeth ariannol werthfawr ond mae hefyd yn adlewyrchu cryfder cynyddol partneriaethau allanol yr Ysgol Fusnes, gan atgyfnerthu ei swyddogaeth wrth gysylltu myfyrwyr 芒 llwybrau proffesiynol a gwella eu rhagolygon gyrfa.
Darganfyddwch fwy am astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor a gweld ble y gall fynd 芒 chi.