Mae鈥檙 gyfrol Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB, a olygwyd gan Arwel Vittle a'i chyhoeddi gan Y Lolfa, yn dwyn ynghyd straeon, profiadau ac atgofion y staff a鈥檙 myfyrwyr hynny sydd wedi helpu i lunio cymuned Gymraeg Bangor, ers sefydlu UMCB ym 1976.
Bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi ym Mhabell y Cymdeithasau am 3pm ddydd Mercher, 5 Awst ble bydd Ross Griffiths, Llywydd presennol UMCB yn cyflwyno Arwel Vittle, awdur a golygydd y gyfrol fydd yn holi cyn-Lywyddion ac aelodau amlwg o鈥檙 Undeb, gan gynnwys Mair Rowlands AS, Huw Williams a Glyn Tomos ac eraill.
Ross Griffiths, UMCB President 2026鈥27, said: 鈥淯ndeb Bangor is incredibly grateful to the alumni who have supported the Bangor Fund. Thanks to their generosity, Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB will help celebrate and preserve 50 years of UMCB鈥檚 history and ensure this important part of 成人VR视频鈥檚 heritage can continue to inspire future generations.鈥
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd UMCB 2026鈥27, 鈥淢ae Undeb Bangor yn hynod ddiolchgar i鈥檙 cyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor. Diolch i'w haelioni nhw, bydd Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB yn helpu i ddathlu a gwarchod 50 mlynedd o hanes UMCB a gwneud yn si诺r y bydd y bennod bwysig yma o dreftadaeth Prifysgol Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. 鈥
Ers ei sefydlu ym 1976, mae UMCB wedi cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Bangor, gan chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo iaith, diwylliant a chymuned Gymraeg y brifysgol.
Mae'r llyfr yn archwilio datblygiad y sefydliad dros bum degawd, o鈥檙 ymgyrchu dros y Gymraeg yn niwedd y 1970au a dechrau'r 1980au i'w r么l ym mywyd myfyrwyr heddiw. Drwy鈥檙 defnydd o atgofion personol, lluniau a hanesion, mae'r gyfrol yn edrych yn 么l ar gyfnod o newid sylweddol i addysg uwch a鈥檙 bywyd Cymraeg ym Mangor.
Mae ail ran y gyfrol yn olrhain taith UMCB o鈥檙 1990au hyd heddiw, trwy gyfraniadau gan gyn-Lywyddion ac aelodau, gan gynnwys Mirain Llwyd Morgan, Gethin Morgan, Lleucu Myrddin, Bethan Williams, David Wilton, Mabon ap Gwynfor AS, Mair Rowlands AS a Huw Williams. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cerdd i nodi鈥檙 achlysur gan Peredur Lynch, a fu鈥檔 Llywydd UMCB rhwng 1984 a 1985.
Dywedodd Mair Rowlands Aelod Senedd dros Bangor Conwy M么n, a chyn Lywydd a Phrif Weithredwr UMCB, "Mae'r lansiad hwn yn gyfle gwych i ddathlu 50 mlynedd o hanes UMCB a'r cyfraniad arbennig y mae wedi'i wneud i fywyd Cymraeg Prifysgol Bangor a Chymru gyfan. Ar 么l blynyddoedd o waith ar y gyfrol, mae'n bleser gweld y straeon a'r atgofion yn cael eu dwyn ynghyd mewn cofnod mor bwysig. Edrychaf ymlaen at drafod yr hanes hwnnw yn yr Eisteddfod, ond hefyd at edrych ymlaen at ddyfodol UMCB a'i r么l barhaus wrth gefnogi a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg Bangor."
Gyda'i gilydd, mae'r cyfraniadau hyn yn creu cofnod o'r unigolion, y digwyddiadau a'r cerrig milltir sydd wedi siapio鈥檙 gymuned o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mae'r llyfr yn dathlu cyfraniad parhaus UMCB i hyrwyddo'r iaith, y diwylliant a chynrychiolaeth Gymraeg a hynny drwy edrych yn 么l ar yr heriau a'r llwyddiant sydd wedi diffinio hanes y sefydliad.
Bydd y llyfr ar gael i鈥檞 archebu ymlaen llaw ddiwedd Gorffennaf a chaiff ei lansio鈥檔 swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher, 5 Awst, am 3.00pm ym Mhabell y Cymdeithasau.
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd UMCB 2026鈥27:鈥淢ae Undeb Bangor yn hynod ddiolchgar i鈥檙 cyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi Cronfa Bangor. Diolch i'w haelioni nhw, bydd Brwydr ar y Bryn: 50 mlynedd o UMCB yn helpu i ddathlu a gwarchod 50 mlynedd o hanes UMCB a gwneud yn si诺r y bydd y bennod bwysig yma o dreftadaeth Prifysgol Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. 鈥
Dywedodd Arwel Vittle sydd wedi ysgrifennu a golygu鈥檙 llyfr: 鈥淩oedd cael ysgrifennu a golygu hanes UMCB yn fraint. Roedd sefydlu'r Undeb Gymraeg ym Mangor yn rhan bwysig o ymdrechion yn yr 1970au a'r 1980au i amddiffyn y Gymraeg yn y Brifysgol a'r ardal gyfagos. Roedd yn gyfnod cyffrous iawn o brotestio sy鈥檔 werth ei chofio, ac roedd llawer o gyn-aelodau鈥檙 Undeb yn barod iawn i rannu eu hatgofion am y protestio adeg blynyddoedd cynnar UMCB.
Yn yr ail ran rwyf wedi golygu ysgrifau gan wyth o gyn-Lywyddion ac aelodau UMCB dros y blynyddoedd, ac maen nhw hefyd yn rhannu eu profiadau difyr dros y blynyddoedd ac yn s么n sut y gwnaeth myfyrwyr Cymraeg Bangor sefyll gyda鈥檌 gilydd dros eu hiaith, eu diwylliant a鈥檜 cymuned. Ar ben hynny mae Peredur Lynch, Llywydd UMCB 1984-85 wedi llunio cerdd arbennig iawn i ddathlu 50 mlwyddiant yr Undeb. Mae鈥檙 cyfan rwy'n credu yn creu cyfrol deilwng i gofio cyfraniad mawr UMCB nid yn unig i fywyd Prifysgol Bangor ond i Gymru鈥檔 gyffredinol.鈥
Caiff Cronfa Bangor ei chyllido drwy roddion gan gyn-fyfyrwyr a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Dysgwch ragor am Gronfa Bangor yma