Cyhoeddodd yr Athro Christian Dunn, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, hyn yn The Daily Telegraph, gan ddadlau y dylid amddiffyn cynefinoedd gwlyptiroedd rhag datblygiad oherwydd eu cyfraniad pwysig at storio d诺r a lleihau'r risg o lifogydd.
Esboniodd yr Athro Dunn y gellir ystyried gwlyptiroedd fel atebion ar sail natur gan eu bod yn defnyddio prosesau naturiol i fynd i'r afael 芒 heriau cymdeithasol fel llifogydd, sychder a llygredd d诺r, ac maent hefyd yn darparu manteision i fioamrywiaeth, storio carbon a llesiant pobl.
Meddai: 鈥淥s yw darn o dir wedi ei nodi fel gwlyptir - sy鈥檔 golygu bod angen p芒r o wellingtons arnoch i鈥檞 groesi - ni ddylem ystyried mai ei ddraenio, ei lenwi ac adeiladu arno yw鈥檙 peth gorau i鈥檞 wneud. Dylid ei ddiogelu i'r eithaf.鈥
Collwyd dros 75 y cant o arwynebedd gwlyptir gwreiddiol y Deyrnas Unedig ers 1700. Gall gwlyptiroedd weithredu fel sbyngau naturiol, ac arafu llif stormydd a dal gormodedd d诺r yn y dirwedd am hirach, gan hefyd helpu cynefinoedd i aros yn wlypach yn ystod cyfnodau sych.
Mae'r Athro Dunn yn dadlau y dylid ystyried gwlyptiroedd yn rhan o seilwaith cenedlaethol hanfodol Prydain, ochr yn ochr 芒 dulliau confensiynol o ddiogelu rhag llifogydd.
Meddai hefyd: 鈥淏yddai adeiladu tai a dinistrio鈥檙 seilwaith naturiol sy鈥檔 helpu amddiffyn y tai hynny rhag llifogydd yn dangos diffyg gweledigaeth ofnadwy.鈥
Daw'r alwad yn dilyn haf o sychder a chyfraddau glaw eithriadol o isel ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r Athro Dunn yn dadlau y gall yr un dirwedd fod mewn perygl o sychder a llifogydd, yn enwedig os yw'r systemau naturiol a arferai storio ac arafu d诺r wedi cael eu dinistrio.
Mae'n galw am roi'r un flaenoriaeth strategol i adfer a chreu gwlyptiroedd 芒 meysydd eraill o wydnwch cenedlaethol, gydag atebion ar sail natur yn cael eu defnyddio ochr yn ochr 芒 pheirianneg gonfensiynol i helpu'r Deyrnas Unedig i addasu i dywydd cynyddol eithafol.
鈥淵styriwyd yn y gorffennol bod dinistrio gwlyptiroedd Prydain yn llwyddiant peirianneg,鈥 meddai鈥檙 Athro Dunn. 鈥淢ae eu hadfer bellach yn fater o ddiogelwch cenedlaethol.鈥
Darllenwch fwy am syniad yr Athro Dunn o 'lain wlyb':
Colofn yr Athro Dunn yn The Daily Telegraph ar bwysigrwydd gwlyptiroedd:
Os hoffech ddysgu mwy am bwysigrwydd gwlyptiroedd ac atebion ar sail natur, edrychwch ar rai o'r cyrsiau gradd israddedig ac 么l-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: /sens