Croeso i'r Athro Andrew Thomas, Deon Ysgol Fusnes Albert Gubay
Mae鈥檙 Athro Andrew Thomas wedi ei benodi鈥檔 Ddeon Ysgol Fusnes Albert Gubay. Daw i Brifysgol Bangor o Brifysgol Abertawe lle'r oedd yn Ddeon Ysgol Reolaeth Abertawe. Mae hefyd yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Thomas yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli鈥檙 gadwyn gyflenwi, rheoli projectau, strategaethau gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi denu dros 拢12 miliwn mewn cyllid ymchwil a chyllid masnachol, wedi cyhoeddi dros 250 o erthyglau ymchwil, gan gynnwys; papurau mewn cynadleddau, adroddiadau i鈥檙 llywodraeth a phrif anerchiadau, ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda phartneriaid yn y maes academaidd, mewn llywodraeth ac mewn diwydiant. Mae'n Gymrawd y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hefyd yn Beiriannydd Siartredig.
Mae'r Athro Thomas wedi goruchwylio ac arwain pump ar hugain o brojectau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ac amryw o fentrau ymchwil a ariannwyd drwy ERDF, ESRC, EPSRC, EU FP7, Horizon 2020 ac Innovate UK. Yn ychwanegol at yr hyn y mae wedi ei gyflawni鈥檔 academaidd ac o ran ymchwil, ef yw Cadeirydd Consortiwm Penaethiaid Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y Deyrnas Unedig (COMEH) ar hyn o bryd ac mae鈥檔 aelod o Gyngor yr Athrawon Peirianneg (EPC UK).
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd cael dechrau yn fy swydd fel Deon Ysgol Fusnes Albert Gubay a chael y cyfle i weithio ochr yn ochr 芒 chymuned o staff sydd mor dalentog ac yn llawn ymroddiad. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at gydweithio 芒 chydweithwyr ar draws yr Ysgol a'r Sefydliad wrth i ni adeiladu ar ein cryfderau, croesawu cyfleoedd newydd, a gweithio鈥檔 barhaus i wella perfformiad, effaith a llwyddiant ein myfyrwyr a'n partneriaid.鈥