Gwahodd Busnesau Cymru i lunio dyfodol mabwysiadu deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
Mae busnesau bach a chanolig (SMEs) Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil newydd sy'n archwilio sut mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen-AI) yn cael ei ddefnyddio neu ei ystyried ar hyn o bryd o fewn busnesau ledled Cymru.
Mae鈥檙 prosiect yn cael ei arwain gan Dr Fariba Darabi yn Ysgol Fusnes Albert Gubay Prifysgol Bangor, gan weithio gyda鈥檙 Athro Michael Butler a Dr Junyu Zhou, mewn partneriaeth ag M-SParc ac wedi鈥檌 ariannu drwy gynllun SMART FIS Llywodraeth Cymru.
Nod yr ymchwil yw sicrhau bod busnesau Cymru yn derbyn y gefnogaeth, y sgiliau a鈥檙 canllawiau cywir i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ffordd ymarferol, gyfrifol ac effeithiol. Bydd canfyddiadau鈥檙 arolwg yn helpu i lunio cynlluniau arloesi, rhaglenni datblygu sgiliau a chyfeiriad polisi yn y dyfodol ledled Cymru.
Meddai Dr Fariba Darabi, o Brifysgol Bangor, 鈥淏ydd y prosiect yn darparu鈥檙 sail ar gyfer creu cynlluniau arloesi a datblygu sgiliau Gen-AI yn y dyfodol ar draws gwahanol ddiwydiannau mewn SMEs yng Nghymru. Bydd y cynlluniau arloesi hyn yn cynyddu ein gallu a鈥檔 capasiti i allu gweithio gyda SMEs a鈥檜 cefnogi i wneud y defnydd gorau o Gen-AI. Bydd canlyniad yr holiadur hefyd yn helpu i lunio map ffordd i gefnogi a llywio cyfeiriad strategol Canolfan Ymchwil Rhanbarth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ac M-SParc a strategaeth AI Llywodraeth Cymru wrth gefnogi mabwysiadu Gen-AI mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru.鈥
鈥淢eddai Yr Athro Michael Butler, o Brifysgol Bangor, Mae ein Prosiect Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol arloesol yn dangos Prifysgol Bangor ar ei gorau. Rydym yn mynd i鈥檙 afael ag un o bynciau pwysicaf ein hoes i helpu busnesau bach a chanolig i elwa o newid technolegol. Dim ond trwy gydweithrediad aml-bartner y gellir cyflawni hyn: Canolfan Rhanbarth ar gyfer Rhanbarthau ac Econom茂au Cynaliadwy Ysgol Fusnes Albert Gubay, M-SParc a Llywodraeth Cymru.鈥
Mae M-SParc yn chwarae rhan allweddol wrth gysylltu鈥檙 ymchwil hon 芒 busnesau ledled Cymru, gan ddefnyddio ei ecosystem, ei rwydweithiau a鈥檌 brofiad o gefnogi busnesau bach a chanolig sy鈥檔 cael eu harwain gan arloesedd.
Meddai Olwen Davies, Rheolwr Contractau a Masnachol yn M-Sparc, 鈥淩ydym wrth ein bodd yn cydweithio ar y prosiect ymchwil pwysig hwn. Yn M-SParc, ein r么l ni yw cysylltu arloesedd ag anghenion busnes go iawn. Drwy symud ein hecosystem a鈥檔 rhwydweithiau cenedlaethol, rydym am sicrhau bod gan fusnesau bach a chanolig o bob cwr o Gymru y cyfle i gyfrannu eu profiadau a helpu i lunio cefnogaeth AI yn y dyfodol mewn ffordd sy鈥檔 ymarferol, yn berthnasol ac yn effeithiol.鈥
Mae鈥檙 gwaith hwn yn adeiladu ar weithgarwch ehangach M-SParc mewn Deallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys:
- cynnal arddangosfeydd a chynadleddau sy鈥檔 dod ag arbenigwyr ac amheuwyr AI ynghyd
- lansio , cyfrifiannell allyriadau carbon sy鈥檔 cael ei phweru gan AI ar gyfer busnesau bach a chanolig
- cyflwyno gweithdai AI a chymorth busnes
- datblygu offer AI fel adolygwr a dadansoddwr 鈥榩rompts鈥
- recriwtio arbenigwyr busnes AI i gefnogi rhaglen Busnes Cymru
Anogir busnesau bach a chanolig Cymru i gwblhau鈥檙 holiadur byr ar-lein erbyn 15 Chwefror 2026 drwy .
Mae rhagor o gyd-destun ar gydweithrediadau ymchwil AI blaenorol rhwng Prifysgol Bangor ac M-SParc .