Ynni Solar
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o gonsortiwm SPARC II, project a gyllidir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ddatblygu them芒u newydd ym maes ymchwil ynni solar/ffotofoltaidd, sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth.
Bydd yr ymchwil yn chwilio am atebion 芒 gwerth ychwanegol i'r heriau technoleg hyn a fydd yn cynnig cyfleoedd gweithgynhyrchu a chyflenwi newydd i ddiwydiant yng Nghymru. Mae Prifysgol Bangor yn arwain pecyn gwaith sy'n canolbwyntio ar ddadansoddi dibynadwyedd, monitro perfformiad awyr agored a datblygu defnyddiau newydd at gymwysiadau ynni solar.
Tra bo cenedlaethau newydd o dechnolegau ffotofoltaidd yn cynnig addewid o gynhyrchu ynni is a’r posibilrwydd o integreiddio yn gynhyrchion newydd ar gyfer cywain ynni dan do a chymwysiadau sydd wedi’u hintegreiddio ag adeiladau, mae sefydlogrwydd yn parhau i fod yn allweddol bwysig cyn bo modd masnacheiddio. Bydd Prifysgol Bangor yn defnyddio technegau dadansoddi materol i astudio achosion methiant, a phrofi cyflymedig i ragfynegi sefydlogrwydd yn y dyfodol. I ymgymryd 芒’r fath waith, mae gan Brifysgol Bangor uned o gyfarpar profi a meddalwedd dibynadwyedd pwrpasol i astudio dibynadwyedd a pherfformiad celloedd solar.
Bydd yn ofynnol erbyn 2020 dan nifer o Gyfarwyddebau Ewropeaidd sy'n hyrwyddo ynni adnewyddadwy, i'r Undeb Ewropeaidd gynhyrchu 20% o'i ynni o adnoddau adnewyddadwy, a'r nod fydd sicrhau bod adeiladau newydd yn defnyddio ymron i ddim ynni. O'r herwydd, mae projectau eraill yn canolbwyntio ar ddatblygu celloedd ffotofoltaidd wedi'u hintegreiddio ag adeiladau. Mae hyn yn cynnwys projectau Ewropeaidd megis y project Ewropeaidd STEELPV (RFSR-CT-2014-00014) sy'n cynnwys partneriaid o Sbaen, yr Almaen, y Deyrnas Unedig a'r Eidal. Arweinir y project gan Fundacion ITMA gyda’r bwriad o wneuthur dur o gost isel a fydd yn gymhathol fel is-haenau uniongyrchol ar gyfer dyfeisiau ffotofoltaidd haen denau, trwy ddatblygu haenau rhyngol gan ddefnyddio strategaethau heb wactod a chyda gwactod.
Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu dull lle gellir gwneuthur is-haenau dur 'garw' yn gymhathol 芒 chynhyrchu celloedd ffotofoltaidd drwy blaenio'r arwynebau a sicrhau arwahaniad trydanol rhwng y celloedd ffotofoltaidd a'r is-haen. Ar ddiwedd y project STEELPV, bydd portffolio o gynhyrchion dur o werth ychwanegol yn barod i'w defnyddio ar gyfer gwahanol sectorau, i adeiladu amlenni o gwmpas adeiladau newydd neu rai presennol ac ar gyfer isadeiledd ffyrdd a thrafnidiaeth. Gellid integreiddio'r atebion newydd hyn ar gyfer yr amlen adeiladu (ffasadau a thoeau) yn achos adeiladau newydd ac adeiladau wedi'u h么l-ffitio ac maent yn addas ar gyfer y farchnad adeiladu breswyl a diwydiannol. Gallai sectorau eraill megis isadeiledd ffyrdd a thrafnidiaeth hefyd fanteisio ar yr holl ddatblygiadau hyn.
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni Prifysgol Caerdydd fel rhan o Rwydwaith Ymchwil Peirianneg Cymru rhaglen S锚r Cymru. Mae'r project hwn yn astudio defnydd amsugno perovskite ar gyfer cymwysiadau ynni solar.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn gweithio gyda diwydiant yn y Deyrnas Unedig, yn arbennig ym maes celloedd ffotofoltaidd crynodedig. Mae cyllid gan InnovateUK yn cael ei ddefnyddio i astudio sut y gellir defnyddio opteg grynodi fawr i ffocysu hyd at 1000x ar led-ddargludydd bach cell solar (yn nodweddiadol yn llai nag 1 cm虏). Mae'r heriau o ran gwaredu gwres o samplau o'r fath sydd 芒 dwyseddau goleuni mor uchel yn cael eu harchwilio iddynt. Ymhellach mae cefnogaeth gan gwmn茂au lleol megis UPS2 ltd (sydd wedi'i leoli yn Llanelwy) wedi cyllido myfyriwr PhD i ddatblygu cyfarpar gweithgynhyrchu i lunio cydrannau optegol mewn celloedd ffotofoltaidd.