Sefydliad Dyfodol Niwclear
Mae Prifysgol Bangor yn datblygu gallu gyda’r gorau yn y byd mewn gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear a chanolbwynt y gallu hwn yw'r Sefydliad Dyfodol Niwclear. Bydd hyn yn sefydlu Gogledd Cymru fel canolfan fyd-eang, gan sefydlu partneriaethau rhyngwladol a chyfleoedd o gymysgedd cyfoethog o ddoniau newydd a rhai sydd eisoes ar gael i gefnogi’r economi leol a rhanbarthol.
Gyda phrojectau dadgomisiynu a gorsaf ynni niwclear newydd ger llaw, a nifer cynyddol o fusnesau o’r gadwyn cyflenwi niwclear yn dod yn weithredol yn yr ardal, mae’r brifysgol yn canolbwyntio ar dechnolegau cynhyrchu ynni niwclear presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg yn cynnwys adweithyddion dŵr gwasgeddedig (PWR), (Uwch) adweithyddion dŵr berw (ABWR) ac adweithyddion modiwlar bach (SMR).
Mae Prifysgol Bangor ac Imperial College Llundain, gyda Hitachi-GE yn darparu arbenigedd a chymorth technegol, eisoes wedi sefydlu Canolfan a rhwydwaith adweithyddion dŵr berw (BWR). Mae’r Rhwydwaith yn dod ag ymchwilwyr yn y DU ac o Hitachi Nuclear at ei gilydd i helpu i ddatblygu cenedlaethau’r dyfodol o dechnoleg adweithyddion dŵr berw.
Cronfeydd yr UE:Buddsoddi yng Nghymru
Mae arbenigedd niwclear a gallu academaidd ym Mhrifysgol Bangor yn ehangu’n gyflym gyda phenodiad ‘sêr’ ymchwil rhyngwladol, ynghyd â’u timau ymchwil cefnogol, a ariennir gan raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Ar lefel ehangach, mae Prifysgol Bangor hefyd yn datblygu nifer o brojectau uchelgeisiol iawn yn y sector ynni ehangach yn canolbwyntio ar gyflenwadau ynni cynaliadwy a diogel ar gyfer y dyfodol.
Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau hyn yn sefydlu Gogledd Cymru fel canolfan fyd-eang o arbenigedd, gan helpu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr i ymdrin â’r angen brys am ynni carbon isel ac ynni diogel o amgylch y byd.
Cefnogaeth Diwydiannol o’r Dechrau i’r Diwedd ar gyfer y Sector Niwclear yng Ngogledd Cymru
Mae cyflawni seilwaith ynni mawr yn gofyn am lawer mwy na ffiseg o’r radd flaenaf. Mae ein gallu trawsddisgyblaethol yn uno pŵer ymchwil y Sefydliad Dyfodol Niwclear gyda rhwydwaith integredig o wyddonwyr amgylcheddol morol, arbenigwyr cyfraith caffael, ac arbenigwyr logisteg cadwyn gyflenwi ym M-SParc. Rydym yn darparu’r wybodaeth gynhwysfawr, ar lefel ymarferol, sydd ei hangen ar ddatblygwyr a rheoleiddwyr i gyflawni prosiectau sero net yn ddiogel. Archwiliwch ein cynnig masnachol llawn a gweld sut y mae tîm Niwclear Prifysgol Bangor yn cefnogi dyfodol yr SMR yn Wylfa.