Fel rhoddwr, rydym yn falch o rannu sut mae eich cefnogaeth yn newid bywydau ac yn llunio taith myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Oherwydd eich cefnogaeth, mae myfyrwyr yn gallu manteisio ar gyfleoedd y byddent o bosib yn eu colli fel arall; derbyn cymorth bwrsariaeth ar adegau hollbwysig, cymryd rhan mewn teithiau maes sy'n dod â dysgu'n fyw, ac ymgysylltu â phrojectau sy'n meithrin hyder, llesiant a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Drwy wobrau Cronfa Bangor, mae eich rhoddion yn helpu i feithrin chwilfrydedd, uchelgais, ac ymdeimlad o berthyn, gan sicrhau y gall ein myfyrwyr wneud y gorau o bob cam o'u hamser ym Mangor.
Yma, rydym yn rhannu cipolwg ar yr effaith honno, diweddariadau ar brojectau rydych chi wedi helpu i'w cwblhau. Mae'r gweithredoedd haelioni hyn yn creu newid parhaol, nid yn unig i fyfyrwyr heddiw, ond i genedlaethau i ddod.
Gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i weld canlyniadau go iawn eich ymrwymiad parhaus i Fangor a gwybod pa mor ddiolchgar ydym ni am y rôl rydych chi'n ei chwarae wrth gefnogi ein myfyrwyr a dyfodol y Brifysgol.