Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai gennych gyfle i fynd i’r afael ag un o broblemau mwyaf y byd?
Yn ystod Wythnos Groeso, bydd myfyrwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a Gwleidyddiaeth yn dod at ei gilydd i ffurfio melin drafod ac i fynd i’r afael â her fawr yn y byd go iawn. Byddwch yn gweithio gyda myfyrwyr eraill ac aelodau o staff i gwestiynu’r broblem, profi syniadau, dadlau eich achos a chynnig atebion posibl.
Mae’n gyfle i weld beth y gall eich pwnc ei wneud mewn gwirionedd. Sut gall athroniaeth ein helpu i feddwl yn wahanol? Beth gall moeseg ei ddweud wrthym am y dewisiadau a wnawn? Sut gall gwleidyddiaeth droi syniadau yn weithredu?
Dewch â’ch syniadau, heriwch ffordd o feddwl pobl eraill a gweld beth sy’n digwydd pan ddaw safbwyntiau gwahanol ynghyd i fynd i’r afael â phroblem sy’n wirioneddol bwysig.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a’r ystafell ar fap y campws.