Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis astudio’r Gyfraith ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous.
Mae astudio'r gyfraith yn rhywbeth hynod o ddiddorol i’w wneud. Byddwch yn cael cyfle i astudio pynciau fel cyfraith gyhoeddus, gyfraith trosedd, cyfraith cytundebau ymysg pethau eraill. Mae yna rywbeth ar gyfer pawb. Fyddwch yn cael gwneud hyn trwy ddarlithoedd mawr a grwpiau seminar bach.
Fel siaradwyr Cymraeg, cewch gyfle i gwblhau rhan o'ch gradd yn Gymraeg ond hefyd i gyflwyno asesiadau yn Gymraeg hefyd.
Ar gyfer rhai o'n graddau, mae'r opsiwn o astudio yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol ac i wneud hynny drwy ddarparu cyngor am ddim i aelodau o'r gymuned.
Da ni yn griw bach ond rydym yn ofnadwy o gryf, a da ni'n edrych ymlaen at groesawu chi.
Pam dewis y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor?
- Amgylchedd Astudio Cefnogol - Mae dosbarthiadau bach, diwylliant drws agored, a Thiwtor Personol ymroddedig yn golygu eich bod yn cael eich adnabod wrth eich enw ac yn cael eich cefnogi drwy gydol eich gradd.
- Addysgu Sy'n Dod â'r Gyfraith yn Fyw - Byddwch yn dysgu drwy weithdai ymarferol ac achosion o’r byd go iawn, sy'n meithrin hyder a sgiliau cyfreithiol ymarferol.
- Menter Llesiant yn y Gyfraith - Byddwch yn ffynnu gyda'n rhaglen arloesol Llesiant yn y Gyfraith, sydd wedi ei llunio gan ymarfer gorau yn y proffesiwn cyfreithiol.
- Cyfleoedd i Wella Gyrfa - Gallwch hybu eich cyflogadwyedd gyda lleoliadau cyfreithiol ac interniaethau unigryw, datblygu sgiliau proffesiynol yn y ffug lys, a chymryd rhan mewn cystadlaethau a phrojectau pro bono.
- Cysylltiadau Cryf â Gyrfaoedd Cyfreithiol - Cewch gyfle i gysylltu â chyflogwyr a siaradwyr gwadd o bob cwr o'r byd cyfreithiol drwy ein rhwydweithiau helaeth a'n ffair yrfaoedd flynyddol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd wrth fwrdd yng Nghaffi Cegin yn dal beiro gyda phapur ar y bwrdd yn chwerthin ac yn sgwrsio â darlithydd a myfyriwr arall. Dau fyfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland yn sgwrsio ac yn gwenu ar ei gilydd gyda llyfrau a gliniaduron ar y ddesg tra bod myfyriwr arall yn brysur yn ysgrifennu ar ddesg yn y cefndir.
[TROSLAIS] ‘da ni’n gymuned sy’n llywio cyfiawnder hefo’n gilydd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithydd yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Dr Hayley Roberts, Darllenydd mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol.
[TROSLAIS] Ein maint ydi un o’n cryfderau. Felly mi gewch chi’r profiad prifysgol mawr ond mewn lleoliad sy’n teimlo’n gefnogol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r camera'n symud ar draws Ystafell y Ffug Llus o'r gynulleidfa gyda myfyrwyr yn eistedd yn gwylio dau fyfyriwr arall yn ymarfer ar gyfer dadl yn y llys.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gymaint o gyfleoedd anhygoel fel ffug lys, clinig y gyfraith ac opsiynau i astudio dramor.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad â chamera o flaen cefndir coch mae testun yn ymddangos yn y gornel chwith isaf yn darllen Holly Jones, Myfyriwr Israddedig LLB y Gyfraith.
[TROSLAIS] Mae’r gymuned yma ym Mangor yn wych - tu fewn a thu allan i’r Gymdeithas Gyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cynnig digwyddiadau cyffrous yn aml ac mae’r sîn chwaraeon yma’n wych hefyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tudalennau mewn llyfryn yn cael ei droi ar y bwrdd. Myfyrwyr yn sefyll yn gwenu gyda llyfrau yn y cefndir gyda myfyrwyr arall yn eistedd ar y bwrdd yn darllen.
[TROSLAIS] Mae’r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a’r athrawon yn wych yma ac mae’r gefnogaeth maent yn eu gynnig yn wych hefyd.
[TROSLAIS] Mae’r grwpiau tiwtorialau Cymraeg yn dda iawn ar gyfer dal i fyny hefo myfyrwyr Cymraeg arall ac hefyd i ddefnyddio’r iaith wrth astudio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel gwaelod ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.
[TROSLAIS] Ym Mangor, mi gewch chi gyfle i roi’r pethau ‘da ‘chi’n dysgu yn y dosbarth ar waith.
[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn unigryw oherwydd ei leoliad gwych.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy Stryd Fawr Bangor gydag amryw o siopau a chaffis yn y cefndir.
[TROSLAIS] Wedi’i lleoli yng nghanol Stryd Fawr Bangor, mae ein myfyrwyr yn gweld amryw o gleientiaid ac achosion wahanol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae bod yn rhan o glinig y gyfraith wedi bod yn brofiad anhygoel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Ruth Roberts, myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Dwi wedi gwella fy sgiliau drwy weithio hefo cleientiaid sy’n aml o dan straen.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae rhai o’r sgiliau dwi wedi dysgu, fyswn i byth wedi eu dysgu yn y dosbarth yn unig.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Myfyrwyr a darlithwyr yn y clinig cyfreithiol yn gwneud nodiadau ar gyfrifiaduron.
[TROSLAIS] Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, felly ‘da chi’n gwybod fe gewch chi eich dysgu gan unigolion lle mae'u hymchwil yn llywio polisi'r llywodraeth, ac yn cael effaith go iawn ar bobl cyffredin, ac yn gwneud gwahaniaeth ledled y byd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Owain Evans, Myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Diolch i'w dysgu nhw a'u cysylltiadau efo'r diwydiant, dwi wedi cael cip gwirioneddol ar fyd y gyfraith - ac wedi cael sawl cyfle gwych o ganlyniad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Holly Jones yn siarad â'r camera tu blaen i gefndir coch.
[TROSLAIS] O holi cwestiynau mewn Cystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid i fod yn hawliwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth Ffug.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer yn y ffug llus. Mae'r camera yn symud o'r dde i'r chwith gydag un myfyriwr yn edrych ar y camera yn dal ffolderi yn gwisgo gwisg gyfreithiol. Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae astudio’r gyfraith ym Mangor yn agor drysau i gymaint o opsiynau gyrfa.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Fideo stoc o swyddfa fawr yn y ddinas. Llyfrau cyfreithiol ar y bwrdd.
[TROSLAIS] O gyfreithwyr lleol, i gwmnïau dinas a siambrau bargyfreithwyr, i rolau cyfiawnder cymdeithasol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cyflogwyr mewn ffair yrfa gyda baneri yn y cefndir tra bod myfyrwyr yn siarad gyda'r cyflogwyr.
[TROSLAIS] Mae ein cysylltiadau cryf yn rhoi mynediad i chi i interniaethau, lleoliadau, siaradwyr gwadd a ffair gyrfaoedd fywiog.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Olygfa o Brif Adeilad y Brifysgol. Fflag Cymru yn hedfan yn y gwynt.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gysylltiadau cryf gyda chwmnïau yn yr ardal hefyd a’r opsiwn i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg .
[TROSLAIS] Mae hyn yn fantais enfawr i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn eu gyrfa yn lleol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Fel rhan o fy ngradd, dwi wedi bod ar leoliad gwaith mewn sefydliad 'not for profit'.
[TROSLAIS] Mae wedi rhoi cysylltiadau gwerthfawr i mi o fewn y gymuned leol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Ym Mangor, nid addysgu’r gyfraith yn unig yda ni -'da ni’n creu cyfleoedd, yn adeiladu'r dyfodol ac yn siapio arweinwyr cyfreithiol yfory.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, Arwain a Newid Bywydau, Gyda'n Gilydd.
Ymunwch a'n cymuned ar Instagram
Roedd fy amser ym Mangor yn gwbl hanfodol i gyrraedd y swydd rydw i ynddi heddiw. Rhan enfawr o hyn ydy'r ffaith bod y dosbarthiadau yn rhai bychain. Yn sgil hyn, roedd gan y darlithwyr a'r staff academaidd yr amser a'r ymroddiad i allu helpu bob myfyriwr yn unigol.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd wythnos arferol ar y campws yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd mewn grŵp mawr, seminarau llai yn seiliedig ar drafodaeth, a thiwtorialau personol. Gallwch ddisgwyl ategu eich astudiaethau yn y dosbarth trwy hunan-astudio, lle byddwch yn gweithio tuag at gwblhau aseiniadau, paratoi at ddosbarthiadau, a gwneud gwaith darllen a argymhellir/darllen pellach.
Does dim rhestr darllen cyn i chi ymuno â ni ym mis Medi, ond efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwylio rhai rhaglenni teledu, gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau sy'n ymdrin â gwahanol feysydd y Gyfraith.
Gallwch ddisgwyl amserlen sy’n cynnwys 12-15 o oriau cyswllt ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd wedi eu hamserlennu, seminarau, a/neu diwtorialau. Bydd disgwyl i chi baratoi at y sesiynau hynny trwy gwblhau'r gwaith darllen a argymhellir ac ymgymryd ag unrhyw dasgau eraill sydd wedi eu gosod.
Mae blwyddyn gyntaf gradd yn y gyfraith fel arfer yn eich cyflwyno i'r cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol sylfaenol. Byddwch yn astudio pynciau megis Cyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefnau (cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr), Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Gyhoeddus. Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich blynyddoedd astudio dilynol.
I baratoi cyn dechrau ar eich gradd yn y Gyfraith, gallwch ddarllen yn eang trwy archwilio newyddion cyfreithiol, darnau barn a thestunau clasurol. Gallwch hefyd ymarfer eich sgiliau meddwl beirniadol trwy gymryd rhan mewn dadleuon, trafodaethau ac ymarferion dadansoddol. Byddai darllen ynghylch eich maes diddordeb yn fuddiol, gan y byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fwy trylwyr o'r pwnc cyn dechrau eich astudiaethau.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded yn stryd fawr Bangor gydag amryw o gaffis a siopau yn y cefndir. Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.
[TROSLAIS] Doedden ni ddim am i’r clinig fod ar ein campws roedden ni eisiau fo yng nghanol y gymuned leol ar stryd fawr Bangor.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r daflen Clinig Cyngor Cyfreithiol yn cael ei dal i fyny i'r camera gyda'r testun Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, Clinig Cyngor Cyfreithiol Am Ddim a ddarperir gan fyfyrwyr y Gyfraith ym Mangor. Myfyriwr yn croesawu cleient i'r clinig cyfreithiol.
[TROSLAIS] Hyn sy’n gwneud i ni sefyll allan i gymharu â phrifysgolion eraill.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera. Yn waelod y sgrin ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.
[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn galluogi ein myfyrwyr i roi cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau o’r gymuned leol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn croesawu client i'r clinig cyfreithiol. Dau fyfyriwr yn eistedd o amgylch bwrdd gyda darlithwyr yn siarad gyda'r client yn stafell gyfarfod yn y clinig.
[TROSLAIS] Bydd cleient yn cael ei gyfweld gan ddau fyfyriwr wedi eu goruchwylio gan aelod o staff pob amser.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] Nid oes unrhyw gyngor yn cael ei rhoi ar y diwrnod, ond mae’r myfyrwyr yn mynd i ffwrdd, yn gwneud eu hymchwil, ac yna’n ysgrifennu llythyr manwl i yrru yn ôl i’r cleient o fewn pythefnos.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr o amgylch bwrdd yn y clinig. Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] Mae’r profiad ymarferol mae’r myfyrwyr yn cael yn y clinig yn eu helpu i ddatblygu sgiliau na fysant yn eu cael y dosbarth yn arferol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr a dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur tra bod y client yn siarad yn y cefndir.
[TROSLAIS] Dyna pam fod cyflogwyr wrth eu boddau hefo clinig.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Eloïse Bordet, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.
[TROSLAIS] I chose to take part in clinic because I wanted to gain practical experience.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar gyfrifiadur yn y clinig gyda darlithwyr hefyd yn cymryd nodiadau yn y cefndir.
[TROSLAIS] I wanted to apply the knowledge I’ve gained throughout my studies.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] I think it's a great environment to learn, it's really helpful for us students, but also for our community.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Tom Jarman, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.
[TROSLAIS]I didn't think I’d be able to sit in front of people from the local area and ask them about their problems and interview them.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r ddau fyfyriwr yn y clinig. Myfyriwr Tom Jarman yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] That’s really improved through clinic and I think things like note taking, letter writing, which you don’t really get from your law degree, you do a lot of assignments and exams, but nothing really practical and I think it's really helped that side of things.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] As an international student, I was obviously kind of scared before starting but we do get a lot of support from Tracey, our supervising solicitor and from the university as well.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded lawr stryd Bangor gydag amryw o siopau yn y cefndir.
[TROSLAIS] The clinic experience is going to make us more employable.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r darlithwyr a dau fyfyriwr yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur cyn bod myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] And it's really going to help in the future in any jobs that involve communication and legal research skills and legal writing skills as well.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] Mae ‘na fwlch yn y farchnad ar gyfer cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim yng Ngogledd Cymru.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr yn y clinig cyfreithiol.
[TROSLAIS] Yn ogystal, mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice) yn hynod o brysur, felly mae gwir angen clinig cyfreithiol fel hyn ar gyfer y gymuned leol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.
[TROSLAIS] My advice would be to seize the opportunity, don’t be afraid to ask questions.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr a'r darlithwyr yn siarad gyda'r client yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur.
[TROSLAIS] The clinic is a great way to gain legal experience while helping the community.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Crest Prifysgol Bangor yn darllen Prifysgol ³ÉÈËVRÊÓÆµ.
Meithrin Sgiliau Cyfreithiol yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Bangor
Darganfyddwch sut mae myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn gwneud gwir effaith yn y gymuned drwy ein Clinig Cyngor Cyfreithiol arobryn. Dan arweiniad staff arbenigol, mae'r Clinig yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim wrth roi profiad ymarferol amhrisiadwy i fyfyrwyr o weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae'n gyfle i roi dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith, meithrin hyder, a datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyfreithiol lwyddiannus.
Mae modiwl y Clinig Cyngor Cyfreithiol ar gael ar ein rhaglenni craidd Cyfraith, gan gynnwys LLB Cyfraith, LLB Cyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB Cyfraith Droseddol, a LLB Cyfraith (Rhaglen Gyflym 2 Flynedd).
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Lorraine Barron
Mae Cyfraith Trosedd a Throseddeg yn bynciau diddorol iawn. Rwyf wrth fy modd yn archwilio'r damcaniaethau ynghylch pam mae pobl yn cyflawni trosedd (Troseddeg) ac yna'n archwilio beth sy'n digwydd iddynt pan fyddant yn cael eu dal (Cyfraith Trosedd a Chyfiawnder Troseddol)!
Rwyf wrth fy modd pan fydd gan fyfyrwyr ddiddordeb yn y pwnc! Rwyf yn mwynhau darllen traethodau fy myfyrwyr ar y 'drosedd' maent wedi’i dewis, a'r ddamcaniaeth y byddent yn ei defnyddio i egluro eu hymddygiad.
Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous i chi neu'n eich cynhyrfu, a pheidiwch â bod ofn manteisio ar gyfleoedd annisgwyl ar hyd y ffordd.
Daeth y defnydd llwyddiannus cyntaf o’r amddiffyniad gwallgofrwydd ar ôl ymgais i lofruddio Prif Weinidog Prydain, Robert Peel, ym 1843. Credai’r llofrudd, Daniel M’Naghten, ei fod yn cael ei erlid gan asiantau’r llywodraeth a cheisiodd ladd y Prif Weinidog Peel, ond saethodd yn ddamweiniol a lladd ysgrifennydd Peel, Edward Drummond. Yn ystod yr achos, dadleuodd amddiffyniad M’Naghten ei fod yn dioddef o ledrith oherwydd salwch meddwl, ac fe’i cafwyd yn ddieuog oherwydd gwallgofrwydd. Arweiniodd yr achos hwn at greu Rheol M’Naghten, safon gyfreithiol ar gyfer gwallgofrwydd sy’n gofyn a allai’r diffynnydd wahaniaethu rhwng da a drwg ar adeg y drosedd. Sbardunodd yr achos ddicter cyhoeddus enfawr, gyda’r Frenhines Victoria ei hun yn mynnu deddfau llymach. Ac eto, daeth Rheol M’Naghten yn gonglfaen i’r amddiffyniad gwallgofrwydd mewn cyfraith droseddol, gan ddylanwadu ar systemau ledled y byd, a chyfeirir ati o hyd mewn ystafelloedd llys heddiw.
Natasha Hooker
Mae'r gyfraith yn bwnc heriol a difyr iawn oherwydd ei fod yn datblygu’n barhaus. Mae hyn yn cadw'r pwnc yn ddiddorol ar ôl gorffen astudio yn y brifysgol gan eich bod yn gallu gweld ei ddatblygiad mewn bywyd bob dydd!
Mae'r grwpiau dysgu llai yn galluogi darlithwyr i ddatblygu perthynas waith dda gyda'r myfyrwyr. Mae hyn yn arwain at ddarlithwyr yn dod i adnabod arddulliau dysgu unigol ac anghenion myfyrwyr.
Grym a hyblygrwydd rhaglenni gradd cydanrhydedd! Trwy astudio fel hyn, rydych yn gallu symud ymlaen i yrfa gyfreithiol, ac ehangu eich rhagolygon gyrfa ar yr un pryd!
Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar dasgau heriol a dysgu o'ch camgymeriadau.
Tracey Horton
Cefais fy mherswadio gan un o fy narlithwyr Lefel A i fynd i'r brifysgol a chymhwyso fel cyfreithiwr. Roeddwn i’n fyfyriwr prifysgol cenhedlaeth gyntaf ac felly roedd hwn yn gam mawr i mi.
Wrth redeg y Clinig Cyngor Cyfreithiol rydym yn delio â rhan fwyaf o feysydd y gyfraith ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned leol.
Mae'r clinig wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned leol sy'n gwneud fy swydd yn llawer haws. Wrth gwrs mae mynediad at draethau a mynyddoedd hardd hefyd yn fonws.
Meddwl am brofiad gwaith o'r diwrnod cyntaf. Peidiwch â'i adael tan eich blwyddyn olaf.
Un o'r uchafbwyntiau yn bendant yw cyfarfod â'r Arglwyddes Hale yn un o ddigwyddiadau LawWorks. Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau hefyd. Dynes wirioneddol ysbrydoledig.
Rwyf ar hyn o bryd yn fargyfreithiwr Cyfraith Teulu yn gweithio o Siambrau Senate House, wedi fy lleoli yn Northampton. Mae fy ymarfer yn canolbwyntio'n bennaf ar waith yn gysylltiedig â phlant, y gellir ei isrannu'n fras yn Gyfraith Breifat a Chyfraith Gyhoeddus.