Gan adeiladu ar y cysylltiadau a oedd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, bydd y cytundeb yn ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ar fentrau ymchwil, addysg a chadwraeth sy'n fuddiol i fywyd gwyllt, yn gwella dysgu myfyrwyr ac yn ymgysylltu â'r gymuned ehangach.
Bydd myfyrwyr ar draws rhaglenni academaidd perthnasol yn cael profiad gwerthfawr o’r byd go iawn trwy leoliadau, interniaethau, profiad gwaith a dysgu yn y maes yn y sw, tra bydd staff o'r ddau sefydliad yn cydweithio ar ymchwil a chyfnewid gwybodaeth.
Bydd y bartneriaeth yn dwyn ynghyd arbenigedd academaidd Prifysgol Bangor a phrofiad ymarferol Sw Mynydd Cymru i ddatblygu projectau ymchwil a chadwraeth ar y cyd sy'n mynd i'r afael â heriau mewn gwyddor cadwraeth, lles anifeiliaid, monitro amgylcheddol, cynaliadwyedd, addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Bydd hefyd yn darparu fframwaith i Brifysgol Bangor gefnogi datblygiad Sw Mynydd Cymru yn y dyfodol trwy arbenigedd ymchwil, projectau dan arweiniad myfyrwyr a mentrau cydweithredol sy'n gysylltiedig â chyfleusterau ac arddangosfeydd newydd.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, "Drwy gyfuno arbenigedd ymchwil a chryfderau addysgol Prifysgol Bangor â gwybodaeth gadwraeth ymarferol y sw a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd, gallwn greu cyfleoedd ystyrlon i'n myfyrwyr, cefnogi ymchwil arloesol, a chyfrannu at ganlyniadau cadwraeth sy’n cael effaith yn y byd go iawn. Edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos i ddatblygu mentrau a fydd o fudd i sefydliadau a'n cymunedau."
Ychwanegodd Kim Wood, Cyfarwyddwr Casgliadau Byw yn Sw Mynydd Cymru , “Rydym wrth ein bodd yn ffurfioli ein perthynas hirdymor â Phrifysgol Bangor drwy'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn. Fel sw cadwraeth flaengar, mae cydweithio’n hanfodol i gyflawni ein cenhadaeth, ac mae'r bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd rhagoriaeth academaidd ac arbenigedd cadwraeth ymarferol. Drwy gydweithio, gallwn greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer ymchwil, datblygiad myfyrwyr ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gan barhau i wella lles anifeiliaid, cefnogi cadwraeth bywyd gwyllt ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein perthynas hirhoedlog a gweld yr effaith gadarnhaol y bydd y bartneriaeth hon yn ei chael ar fywyd gwyllt, ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach."
Gyda'n gilydd, bydd y ddau sefydliad yn gweithio ar brojectau arloesol a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol wrth hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol mewn cadwraeth.
Prifysgol Bangor a Sw Mynydd Cymru yn cryfhau eu partneriaeth er mwyn hyrwyddo cadwraeth ac addysg
Mae Prifysgol Bangor a Sw Mynydd Cymru wedi ffurfioli eu perthynas hirdymor drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan gryfhau eu cydweithio mewn ymchwil, addysgu, dysgu, profiad myfyrwyr, cadwraeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.