Bancio a Buddsoddi Moesegol
Buddsoddi moesegol
Mae portffolio buddsoddi Prifysgol Bangor yn cynnwys rhoddion a wnaed i'r Brifysgol dros nifer o flynyddoedd i ariannu eitemau penodol. Mae'r portffolio bellach yn cael ei reoli gan CCLA gyda'r trosglwyddiad o'n rheolwr buddsoddi blaenorol, UBS, yn digwydd ym mis Medi a mis Hydref 2025.
Mae portffolio'r Brifysgol wedi'i fuddsoddi yng Nghronfa Buddsoddiadau Moesegol Elusennau CCLA COIF. Dewiswyd y gronfa hon gan ei bod yn cyd-fynd 芒 pholisi buddsoddi cyffredinol y Brifysgol a ddangosir isod.
Yn gryno, nid yw Prifysgol Bangor yn buddsoddi mewn busnesau dadleuol megis:
- Arfau/Offer Rhyfel
- Alcohol
- Gamblo
- Baco
- Adloniant Oedolion
Nid ydym chwaith yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Yn y modd hwn, mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at Gymru sy’n gyfrifol yn ar lefel byd-eang - Datganiad Prifysgol Bangor ar Danwyddau Ffosil
Gan fod ein buddsoddiadau yng nghronfa gyfunol CCLA nid ydym yn dewis buddsoddiadau unigol. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd 芒 CCLA i drafod y cymysgedd o fuddsoddiadau a'r data perfformiad buddsoddi.
Rhagor o wybodaeth:
- Ein Polisi Buddsoddi Cynaliadwy
- Buddsoddiadau Portffolio Gorffennaf 2025
- Buddsoddiadau - Gorffennaf 2024
- Buddsoddiadau - Gorffennaf 2023
- Buddsoddiadau - Gorffennaf 2022
- Buddsoddiadau - Gorffennaf 2021
- Cynaliadwyeddb yn UBS
- Gellir gweld aelodaeth y Pwyllgor Cyllid yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Cyllidebu ar gyfer Cynaliadwyedd
Mae'r Brifysgol yn cefnogi cynaliadwyedd trwy nifer o gyllidebau. Ewch i'r dudalen hon am fanylion pellach.
Cysylltiadau Pellach
- Moeseg, Moeseg Ymchwil ac Uniondeb
- Partneriaeth Gydweithredol, yn cynnwys Cytundebau Trosglwyddo
- Cyflenwyr a Chaffael
- Cefnogi Bangor